Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gwneud ei hunan yn hunanddigonol mewn ynni drwy blannu ardaloedd o brysgwydd yn benodol ar gyfer ynni i'r safle 568 ynni. Adeiladwyd yr Ardd newydd ar gost o £45
miliwn.
Caiff y coed ei gynaeafu, ei dorri a'i fwydo i ffwrnes Biomass - gan ddarparu
dŵr poeth ar gyfer y tŷ gwydr mawr, cymhlyg swyddfa, allfannau adwerthu a chyfleusterau
arlwyo.
Bydd profion ar dyfu eucalyptus a nothofagus - yn hytrach na'r helyg a phoplys a dyfir fel arfer - yn dechrau ar gylch tair i saith mlynedd ar gae yn ymyl yr adeiladau
Biomas.
Bydd ymwelwyr i'r Ardd yn gweld pob cam o'r gweithrediad. Dywedodd Ivor Stokes, eu cyfarwyddwr garddwriaethol: 'Pan welant y bwyler Biomass, efallai y byddant yn ystyried defnyddio coed fel tanwydd eu hunain. Ar ôl golau'r haul, gwynt a dwr, mae'n un o'r ffynonellau ynni mwyaf cyfeillgar i'r
amgylchedd.'
O'i gymharu gyda thanwyddau ffosil, mae llosgi coed yn gymharol lân, gan gynhyrchu allyriant isel o ocsid nitrig, deuocsid sylffwr a llygrwyr eraill. Caiff y carbon deuocsid a gynhyrchir yn ystod llosgi ei amsugno gan ail-dyfiant y planhigion yn yr ardd
fotaneg.
Bydd angen 270 tunnell o goed ar gyfer yr ardd bob blwyddyn. Mae cyfarwyddwyr yr Ardd yn cynnal trafodaethau gyda gweithredwyr tomenni llanw lleol i weld os y medrir gwneud defnydd o ffynhonnell fawr bosibl o goed
gwastraff.
Ivor Stokes
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
www.gardenofwales.org.uk |