Mae Cambrian Engineering (Cymru) Cyf yn arweinydd wrth gynhyrchu tyrrau dur ansawdd uchel ar gyfer y diwydiant tyrbinau gwynt artraeth ac
alltraeth.
Sefydlwyd y cwmni yn 1974 ac mae'n cyflogi 55 o bobl ar hyn o bryd yn ei waith cynhyrchu ym Mangor, Gwynedd. Mae Cambrian wedi defnyddio dynesiad newydd at dechnoleg ffabrigeiddio dur traddodiadol sy'n sail cynhyrchu tyrrau dur - gan ei wneud yr unig gwmni ym Mhrydain sy'n cynhyrchu'r tyrrau
hyn.
Gydag archebion yn cynyddu i 144 mewn blwyddyn, yn cyflenwi prosiectau yn yr Iseldiroedd, Denmarc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Iwerddon a'r Unol Daleithiau, mae Cambrian yn y sefyllfa unigryw o fod yn darparu tyrrau ar gyfer 10 o gynhyrchwyr tyrbinau
gwynt.
Caiff pob cam o'r cynhyrchiant ei wneud yn fewnol er mwyn lleihau costau a chadw rheolaeth ansawdd. Mae'r cwmni hefyd yn ffitio'r llwyfannau, drysau, offer diogelwch, goleuadau, ysgolion mewnol a cheblau pwer fel bod y tyrrau yn barod i'w codi pan gyrhaeddant eu cyrchfan. Pan fydd yn gynhyrchu'n llawn, gall Cambrian gynhyrchu pedwar twr yr wythnos yn cynnwys chwech i wyth
adran.
Mae Cambrian hefyd yn adeiladu'r sylfeini. Gall tyrrau gyrraedd hyd at 100 medr mewn uchder gydag adrannau unigol yn pwyso hyd at 50 tunnell. I wneud lle ar gyfer y tyrrau trymach ar gyfer ffermydd gwynt alltraeth, mae'r cwmni wedi gosod rholion plygu newydd a all rolio plât dur 56mm o
drwch.
David Williams
Cambrian Engineering |