cyflwyniad     defnyddio'r cyfeiriadur     astudiaethau achos     ychwanegu rhestriad     chwilio am gwmnïau     cyswllt     hafan
 

     ynni adnewyddadwy     lle da i fyw ynddo     lle da i weithio ynddo     cynnau busnesau

     gweithredu yn fyd-eang ac yn lleol     ynni i'r milflwyddiant newydd     allforio i'r byd

Mae Asiantaeth Ynni Sir Benfro, a ffurfiwyd ym Mehefin 2000, yn hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddol yn Sir Benfro. Mae'n rhan o rwydwaith o dros 200 o asiantaethau ynni a sefydlwyd ledled yr Undeb Ewropeaidd dan y rhaglen 'SAVE II'.

Pan symudodd yr Asiantaeth i swyddfeydd heb system wresogi, cymerodd y cyfle i osod math newydd o stôf pelenni coed a gyflwynir i Gymru o Ogledd America. Mae'r EnviroFire a weithredir drwy wthio botwm yn wyrdd, glân ac effeithiol iawn ac yn y dyfodol caiff ei danio gan belenni coed o Gymru.

Caiff gwres ei chwythu i'r ystafell drwy gyfnewidydd gwres 90%-effeithiol, a medrir addasu’r allbwn yn awtomatig rhwng 2 a 12kW (6,500 i 40,000 BTU). Mae hopran wedi'i selio yn cadw cyflenwad pedwar diwrnod o belenni coed (ar allbwn 6kw) a dim ond unwaith bob chwe mis mae angen gwagu'r casglwr lludw.

Mae coed wedi rhoi ynni i bobl am fwy o amser nag unrhyw danwydd arall, ac mae'n dod yn gynyddol boblogaidd fel ffynhonnell ynni bron garbon-niwtral. Mae gan danwydd coed hefyd fuddion economaidd. Mae defnyddio adnoddau lleol yn creu swyddi ac yn cyfeirio arian yn ôl i economïau gwledig. Mae tanwydd coed yn cael ei eithrio o'r lefi hinsawdd newid, a dylai hefyd fod yn opsiwn deniadol ar gyfer busnesau a chyrff cyhoeddus.

Gordon James
Asiantaeth Ynni Sir Benfro

 

 
 

© 2001-2002 Awdurdod Datbylgu Cymru. Cedwir pob hawl.