cyflwyniad     defnyddio'r cyfeiriadur     astudiaethau achos     ychwanegu rhestriad     chwilio am gwmnïau     cyswllt     hafan
 

     ynni adnewyddadwy     lle da i fyw ynddo     lle da i weithio ynddo     cynnau busnesau

     gweithredu yn fyd-eang ac yn lleol     ynni i'r milflwyddiant newydd     allforio i'r byd

Mae WS Atkins wedi ennill bri am ei arbenigedd mewn cynaliadwyedd a dylunio ynni isel. Dechreuodd hyn gyda chleientiaid Cymdeithasau Tai yn dymuno gostwng costau ynni fel rhan cyfannol o'r brîff, ond cael y sgiliau hyn yn awr eu defnyddio gan groes-doriad eang o gleientiaid.

  • Arweiniodd cynllun peilot o 12 o dai un llawr, ynni isel ar gyfer yr henoed yn Clase, Abertawe at waith tebyg ar safle gyfagos ar gyfer 60 annedd - yn cynnwys unedau teulu.
  • Ym Mhenweddig, Aberystwyth, roedd prosiect ysgol PFI diweddar yn cynnwys 'simneiau’ awyriant goddefol a chysgodi solar yn y prif fannau dysgu.
  • Mae gwaith pellach wedi cynnwys datblygiad dros gyfnod o 75 o fflatiau a chartrefi ynni isel yng Ngorseinon yn defnyddio grantiau 'Thermie' Ewropeaidd ar gyfer darparu paneli solar.
  • Roedd cynllun ar gyfer Beazer Partnerships yng Ngabalfa, Caerdydd, yn cynnwys anheddau ffrâm bren gyda graddfa uchel o insiwleiddiad thermol a manyleb gynaliadwy a ddatblygwyd yn arbennig.
  • Mae gwaith cynhyrchu ceblau ac ysgol fawr arall yn ymgorffori awyriant naturiol, cysgodi solar a mesurau ynni isel arall ar y cam dylunio.

Mae arbenigedd ar gael dan y cynllun Cyngor Dylunio BRECSU, gan roi arweiniad ar gynaliadwyedd a chysyniadau ynni isel ar gam cynnar o ddatblygiad dyluniad ar gyfer cleientiaid a dylunwyr.

Brian Miles
WS Atkins
www.wsatkins.com

  

 
 

© 2001-2002 Awdurdod Datbylgu Cymru. Cedwir pob hawl.