cyflwyniad     defnyddio'r cyfeiriadur     astudiaethau achos     ychwanegu rhestriad     chwilio am gwmnïau     cyswllt     hafan
 

     ynni adnewyddadwy     lle da i fyw ynddo     lle da i weithio ynddo     cynnau busnesau

     gweithredu yn fyd-eang ac yn lleol     ynni i'r milflwyddiant newydd     allforio i'r byd

Mae gan y Ffatri Eco ar Barc Anturiaeth Abertawe amrediad o nodweddion cynaliadwyedd, yn cynnwys arbed dŵr, deunyddiau adeiladu cyfeillgar i'r amgylchedd, mesurau arbed ynni a defnydd ynni adnewyddol.

O'i adeilad cynaliadwy, mae'r cwmni yn cyflenwi amrediad cyflawn o gynnyrch harddwch naturiol i'r farchnad ryngwladol. Ryw dair blynedd yn ôl, dechreuodd y cynllun i ymgorffori'r tyrbin gwynt o ddifrif. Sicrhawyd cyllid grant ar ôl 18 mis o chwilio caled.

Bydd y tyrbin British Gazelle 20KW o Ogledd Ddwyrain Lloegr - yn cynhyrchu 50% o drydan y cwmni; gan roi ystyriaeth grant i ystyriaeth, bydd yn talu amdano'i hun o fewn chwe mlynedd. Rhagwelir y bydd ganddo oes waith o fwy na 20 mlynedd, ac felly mae'n gwneud tyrbinau graddfa-fach yn opsiwn deniadol iawn i unrhyw gwmni.

Mae prosiect y tyrbin yn manteisio o drefniant peilot ar gyfer mesurydd net. Ni all y ffigurau cynhyrchu trydan fod yn fanwl iawn ar hyn o bryd gan eu bod yn seiliedig ar gyfrifiad cyflymder gwynt NOABL; os unrhyw beth, bydd yr union ffigurau a geir yn uwch na'r rhai a roddir.

Codwyd y tyrbin ar 23 Mehefin 2001. Ar yr un diwrnod enillodd Montagne Jeunesse achrediad Systemau Rheolaeth Amgylcheddol ISO14001. Mae Montagne Jeunesse yn anelu i beidio defnyddio unrhyw danwydd ffosil; maent hefyd yn edrych ar systemau ffotofoltaig a phympiau gwres ffynhonnell daear.

Neil Myatt M.I.Ex.
Montagne Jeunesse
www.montagnejeunesse.co.uk

 

 
 

© 2001-2002 Awdurdod Datbylgu Cymru. Cedwir pob hawl.