Mae gan Awdurdod Datblygu Cymru cyfrifoldeb am hybu datblygiad economaidd a ffyniant yng Nghymru, ac yn dilyn hynny mae yn cydnabod bod cyflawni'r amcanion hynny mewn cyfrannedd union â'r gwerth y mae yn gweld mewn yr amgylchedd naturiol a'i
bobl.
Cyhoeddodd yr Awdurdod Datblygu Cymru ei Bolisi Datblygiad Cynaliadwy -
Learning to Work Differently / Dysgu Gweithio yn Wahanol - ym mis Mawrth 2001. Mae'r polisi hwn yn amlinellu ymroddiad a gweithrediadau yr Awdurdod i gyflawni datblygiad cynaliadwy, cyfiawnder cymdeithasol a gwarchod yr
amgylchedd.
Agwedd bwysig o'r Polisi Datblygiad Cynaliadwy yw Ynni
Adnewyddadwy:
'Bydd yr Awdurdod yn cyfrannu at leihau gollyngiadau nwyon ty gwydr a datblygu amryw gyflenwadau a ffynonellau ynni mewn ffyrdd derbyniol. Yn enwedig, byddwn yn weithgar i hybu datblygiad a defnydd Ynni Adnewyddadwy yng
Nghymru.'
Mae yng Nghymru yn barod arbenigrwydd ym maes Ynni Adnewyddadwy a fydd Awdurdod Datblygu Cymru yn cydweithio â'i bartneriaid i datblygu a hybu yr arbenigrwydd hwn i gwrdd â gofynion y farchnad leol a
byd-eang.
Paratowyd y cyfeiriadur gan Awdurdod Datblygu Cymru a'r rhwydwaith OPET (Sefydliad er Hyrwyddo Technolegau Ynni), a gyllidir gan Raglen Energie y Comisiwn
Ewropeaidd.
Mae gan Awdurdod Datblygu Cymru Swyddfa Ynni yn y Gogledd sy'n ffurfio polisi gweithredu ar gyfer y diwydiant ynni. Mae'r Awdurdod wedi cefnogi amrywiaeth o fusnesau a phrosiectau ynni adnewyddol drwy ei raglenni - yn arbennig y Rhaglen Nwyddau a Gwasanaethau Amgylcheddol. Mae'r Awdurdod yn anelu i gynorthwyo sefydlu a thwf busnesau bach a chanolig gyda phecyn o wasanaethau a gynlluniwyd i helpu busnesau i fynd i'r afael â herion penodol megis uwchraddio technoleg a chyrchu cyfalaf
menter.
Mae rhwydwaith OPET yn anelu i gynorthwyo i ddefnyddio, ymelwa ar ynni adnewyddol a'i ledaenu ac i arddangos datblygiad technolegol yng Nghymru a ledled yr Undeb
Ewropeaidd.
Mae'r Rhwydwaith yn cynnwys 45 o gonsortia yn cynnwys holl aelod wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt. Mae OPET Cymru (a noddir gan Dulas Cyf) mewn partneriaeth gyda EVE, sefydliad yng Ngwlad y Basg yng Ngogledd Sbaen. Mae OPET Cymru yn weithgar yn hyrwyddo ynni adnewyddol ledled Cymru ac yn cynnig cyngor a chymorth i'r sector.
|