Mae sut y defnyddiwn neu y camddefnyddiwn ynni yn amlwg yn sylfaenol i gydbwysedd bregus bywyd ar ein planed, ac mae'n rhaid codi' mater yn uchel ar ysgol blaenoriaethau
gwleidyddol.
Mae gwledydd ym mhob rhan o'r byd yn ymdrechu i ateb y targedau a osodwyd yn Kyoto. Yr ateb yw ynni
cynaliadwy.
Yn ffodus, mae'r bryniau, hinsawdd ac arfordir wedi gwneud Cymru yn lle da i ddatblygu cynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddol. Mae sawl cwmni llwyddiannus yn cynhyrchu offer ac amrediad o ymgynghorwyr arbenigol yn y maes, a rydym ymhell ar y ffordd i fod yn gyfrannydd sylweddol i ostwng allyriant CO2 nid yn unig o fewn Cymru ond hefyd yn
fyd-eang.
Mae allforion cynnyrch a gwasanaethau ynni adnewyddol Cymru eisoes yn ennill miliynau o bunnau bob blwyddyn. Y cwestiwn yw: a ydym yn ddigon ymrwymedig, doeth a chyflym i wneud y gorau o gyfle masnachol
da?
Mae'r Gymuned Ewropeaidd yn credu y bydd y diwydiant ynni adnewyddol yn Ewrop yn werth dros £50 biliwn y flwyddyn erbyn 2010.
Mae gan ynni cynaliadwy ddyfodol mawr. Gall greu swyddi safon uchel mewn peirianneg, coedwigaeth ac amaethyddiaeth - a lliniaru newid hinsawdd. Gyda'r rhan fwyaf o wledydd yn ymdrechu i leihau allyriant CO2 ar gyfer y dyfodol rhagweladwy, pa fusnes gwell i genedl fuddsoddi ynddo?
Dilwyn Jenkins
Powys Energy Agency
www.powysenergy.org.uk |