cyflwyniad     defnyddio'r cyfeiriadur     astudiaethau achos     ychwanegu rhestriad     chwilio am gwmnïau     cyswllt     hafan
 

     ynni adnewyddadwy     lle da i fyw ynddo     lle da i weithio ynddo     cynnau busnesau

    
gweithredu yn fyd-eang ac yn lleol     ynni i'r milflwyddiant newydd     allforio i'r byd

Mae Dulas Cyf wedi ymwneud â phob agwedd o ynni adnewyddol am bron 20 mlynedd mewn dros 30 o wledydd - yn cyfannu America Ladin, Affrica, Asia ac Ewrop.

Mae Cwm Croesor yn system trydan dŵr pen-uchel 500KW mewn ardal sensitif iawn o Barc Cenedlaethol Eryri. Roedd y tiriogaeth anodd iawn yn galw am ddynesiad blaengar i leihau ymyriad i gynefinoedd a'r tirwedd. Roedd y technegau ailosod dwys yn cynnwys terasau waliau carreg a defnyddio geotecstilau. Mae'r bibell wedi ei chladdu'n llwyr a chaiff pwer ei drosglwyddo i'r grid drwy gebl tanddaear.

Cafodd yr holl offer bron ei gynhyrchu ym Mhrydain. Cafodd y prosiect - trydydd contract NFFO Dulas ar gyfer Pwer Cenedlaethol - ar amser ac i gyllideb.

Mae'r paneli solar i wresogi dŵr yng Nghanolfan Hamdden Plas Crug, Aberystwyth yn gorchuddio 200m2 - y mwyaf o'i fath yn Ewrop - yn gwresogi'r pwll i 32°C. Ers ei osod yn 1999 mae'r system wedi cynhyrchu 51.212 MW o ynni glân, gan wrthbwyso 11,000 tunnell o garbon deuocsid.

Yn 2000 rhoddodd Bwrdd Trydan Ceylon gontract i Dulas Hydro fel y prif ymgynghorwyr o Brydain mewn prosiect gan Fanc y Byd i gynhyrchu dogfennau arweiniad pendant ar gyfer cynhyrchu ymwreiddiedig cysylltu â grid, yn arbennig hydro bach a Gwres a Phwer Cyfun.

Mae'r Cyfarwyddyd wedi ffurfio sail rheoliadau newydd y Bwrdd Trydan ar gyfer cysylltu generaduron ymwreiddiedig hyd at 10MW, wedi cysylltu ar hyd at 33kV.

Ian Draisey
Dulas Cyf
www.dulas.org.uk

 

 
 

© 2001-2002 Awdurdod Datbylgu Cymru. Cedwir pob hawl.